Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiect i godi ymwybyddiaeth o Ddementia

Tŷ Atgofion Cymru i gynnig ap amgueddfeydd digidol dwyieithog i bobl hŷn ar draws Cymru

Article Featured Image

Mae Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl (NML) wedi sicrhau cyllid i gyflwyno Tŷ Atgofion Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gan helpu cymunedau ac unigolion ar draws Cymru sy’n byw gyda dementia.  

Caiff Tŷ Atgofion Cymru ei ddylunio gyda House of Memories – rhaglen Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl sy’n codi ymwybyddiaeth o ddementia, ac sydd wedi ennill sawl gwobr. Bwriad y rhaglen yw cysylltu amgueddfeydd Cymru gyda’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan helpu pobl hŷn sy’n teimlo’n ynysig a’r rheini sy’n byw gyda dementia.  

Drwy greu pecyn newydd pwrpasol o fewn yr ap My House of Memories – a fydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg – gall defnyddwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Bydd y prosiect yn defnyddio eitemau o’r gymuned a chasgliadau amgueddfeydd ar draws Cymru i sbarduno atgofion a sgyrsiau gyda theulu ac anwyliaid, ac yn helpu’r rheini sy’n byw gyda dementia i gofio am storïau cyfarwydd a gwrando ar rai newydd, yn ogystal â chadw eu hatgofion eu hunain. Gall pobl hefyd gymryd rhan yn Tŷ Atgofion Cymru drwy sesiynau hyfforddi digidol a gweithdai byw ar gyfer teulu, ffrindiau a gofalwyr. Bydd y cyfan yn rhoi adnoddau i ddefnyddwyr i’w helpu i fyw’n dda gyda dementia. 

Dywedodd Laura Pye, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl: “O Ucheldir yr Alban i Efrog, yr Unol Daleithiau i Singapore, mae House of Memories wedi gweithio ar draws y byd i ddod ag adnoddau amgueddfeydd i gymunedau ynysig a’r rheini sy’n byw gyda dementia. Rwyf wrth fy modd y bydd House of Memories nawr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiect Tŷ Atgofion Cymru – ac rwy’n hyderus y bydd y prosiect hwn wir yn fuddiol i’r rheini sy’n byw gyda dementia ar draws Cymru, yn ogystal â chefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fyw a heneiddio’n dda.” 

Dywedodd Carol Rogers MBE, Cyfarwyddwr House of Memories: “Rydyn ni’n ffyddiog y bydd Tŷ Atgofion Cymru yn ddefnyddiol dros ben wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o ddementia yn ei gyfanrwydd drwy ein gwaith gyda theuluoedd a gofalwyr. Drwy ddatblygu ymgysylltiad cymunedol yn y ffordd hon a chysylltu cymunedau gydag amgueddfeydd ar draws Cymru, ein gobaith yw hybu ffordd iach o fyw sy’n ddiwylliannol gyfoethog i’r rheini sy’n byw gyda dementia – gan feithrin iechyd a lles.” 

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru: “Gall amgueddfeydd fel mannau cymunedol ac fel ffynonellau ar gyfer atgofion cymdeithasol chwarae rôl unigryw mewn gofal cymdeithasol. Mae House of Memories yn rhaglen arloesol dan arweiniad amgueddfeydd sydd wedi creu adnodd sy’n mynd ati’n wirioneddol i gefnogi’r rheini sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr proffesiynol a’u gofalwyr teuluol i gyda gyda’i gilydd.” 

“Rwy’n hynod o falch bod ein cyllid yn gallu dod â’r prosiect arbennig hwn i Gymru, i greu fersiwn dwyieithog gan ddefnyddio gwrthrychau a storïau Cymreig. Bydd yn adeiladu ar y gwaith ar ddeall dementia y mae ein hamgueddfeydd lleol yn ei gynnig ar hyn o bryd yn eu cymunedau unigol, gan wella mynediad at ddiwylliant a threftadaeth Cymru a chyflawni ein hymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu. Bydd amgueddfeydd ar draws y wlad yn cymryd rhan, felly rwy’n edrych ymlaen at gael gweld yn uniongyrchol sut y bydd y prosiect yn datblygu.” 

Mae Tŷ Atgofion Cymru yn rhan o ymrwymiad Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl i gefnogi pobl i fyw’n dda gyda dementia. Gallwch weld y stori lawn am House of Memories a lawrlwytho ap My House of Memories yma: www.liverpoolmuseums.org.uk/house-of-memories